Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 9 Chwefror 2016
Amser: 09.02 -
10.57
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3345
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Darren Millar AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Jocelyn Davies AC Mike Hedges AC Sandy Mewies AC Julie Morgan AC Jenny Rathbone AC Aled Roberts AC |
Tystion: |
Simon Jones, Holdco |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Buckle (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Matthew Mortlock (Swyddfa Archwilio Cymru) Huw Vaughan Thomas (Archwilydd Cyffredinol Cymru) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1.1 Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Simon Jones o gwmni daliannol Llywodraeth Cymru (WGC Holdco), fel rhan o'r ymchwiliad i gamau Llywodraeth Cymru i gaffael Maes Awyr Caerdydd a'i pherchenogaeth ohono.
3.2 Cytunodd Simon Jones i anfon y wybodaeth a ganlyn i gynorthwyo ymchwiliad y Pwyllgor:
· A dderbyniodd BA unrhyw gymhelliant ariannol gan Lywodraeth Cymru i leoli ei gyfleusterau cynnal a chadw ym Maes Awyr Caerdydd;
· Data ar sut y mae teithwyr yn cyrraedd Maes Awyr Caerdydd;
· Gwerth presennol Maes Awyr Caerdydd; ac
· Enwau darparwyr y benthyciadau i'r meysydd awyr hynny y dywedwyd yn y sesiwn dystiolaeth eu bod wedi derbyn benthyciadau.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.